P-04-655 Mynnu ein Hawliau i'r Gymraeg yn y Sector Breifat – Gohebiaeth gan y Deisebydd I’r Cadeirydd 18.11.15

 

Annwyl William Powell AC,

Diolch am gynnig y cyfle i ni ymateb i lythyr y Prif Weinidog ynghylch Safonau'r Gymraeg a'n deiseb.

Mae ymateb y Prif Weinidog yn aneglur ynghylch prif bwyntiau'r ddeiseb ac nid yw'n cynnig y sicrwydd yr ydym, fel deisebwyr, yn gofyn amdano.

(i) Gweithredu Pwerau Llawn y Mesur Presennol

Mae'r Prif Weinidog yn dadlau'r canlynol yn ei lythyr: “Penderfyniad y Comisiynydd fydd hi bryd i gynnal ymchwiliadau pellach gallai gynnwys cwmnïau ffôn, band-eang, egni a thrafnidiaeth, fel y cyfeirir ati yn y ddeiseb.”

Mae'r datganiad hwn yn rhoi darlun camarweiniol i aelodau'r pwyllgor. Er mai gan y Comisiynydd, yn hytrach na'r Llywodraeth, y mae'r pŵer i gychwyn ymchwiliad Safonau, gwyddom, fel mater o ffaith, i'r Llywodraeth ofyn i Gomisiynydd y Gymraeg hepgor dros 200 o gyrff, gan gynnwys cwmnïau trafnidiaeth, o'r trydydd cylch o Safonau. Gwnaed hynny gyda'r awgrym gan y Llywodraeth y byddai, drwy hepgor y cyrff hynny, modd pasio'r drydedd set o Safonau cyn etholiadau'r Cynulliad. Er i'r Comisiynydd ildio i ofyniad y Llywodraeth, bellach mae'r Llywodraeth wedi cadarnhau nad oes modd eu pasio cyn yr etholiadau wedi'r cwbl.

Ceir rhestr o'r cyrff a hepgorwyd gan y Comisiynydd o'r trydydd cylch o Safonau, yn dilyn cais gan y Llywodraeth, yn ein llythyr yma: http://cymdeithas.cymru/dogfen/llythyr-am-gylch-3-y-safonau-iaith-awst-2015

Atodaf ymateb i lythyr a chais rhyddid gwybodaeth gennym i'r Llywodraeth a'r Comisiynydd sy'n dangos bod y Llywodraeth wedi gofyn i'r Comisiynydd hepgor cyrff o'r rhestr yng nghylch 3.  Mewn llythyr at y Llywodraeth ar 23/1/15, dywedodd y Comisiynydd:

"Mewn llythyr y danfonais atoch ar 9 Medi 2014, fe nodais y byddwn i fel Comisiynydd yn fodlon ystyried diwygio’r nifer o bersonau yr arfaethir eu cynnwys yng nghylch 3, ynghyd â’r amserlen ar gyfer cyflwyno adroddiadau safonau yng nghyswllt y personau hynny.

"Bwriad y cynnig hwnnw oedd ceisio hwyluso’r gwaith o gyflwyno dyletswyddau ar bersonau drwy’r prosesau angenrheidiol, ynghyd â sicrhau y caiff safonau eu gwneud yn benodol gymwys i’r nifer uchaf posibl o bersonau cyn i etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael eu cynnal ym Mai 2016.

"Mewn ymateb i’r llythyr hwnnw, fe nodwyd gennych mewn gohebiaeth ar 23 Medi 2014 y byddai’n dra annhebygol y gellid llunio rheoliadau ar gyfer cylch tri cyn etholiad y Cynulliad yn 2016, gan dderbyn y niferoedd uchel o bersonau oedd wedi eu cynnwys yng nghylch 3 o’r rhaglen.

“Gyda hynny mewn golwg, rwyf wedi penderfynu diwygio’r nifer o sefydliadau y cynhelir ymchwiliadau safonau mewn perthynas â hwy yng nghylch 3. Bydd 64 o bersonau bellach 02/05 yn rhan o’r cylch hwn, yn hytrach na’r 259 o bersonau yr adnabuwyd yn wreiddiol. Atodaf restr lawn o’r personau hynny at eich sylw.”

Felly, nid yw'n gywir awgrymu mai mater i'r Comisiynydd yn unig yw penderfynu ar y rhaglen o gynnal ymchwiliadau Safonau. Credwn mai mater i'r Comisiynydd yn unig y dylai fod, ond, fel rydym wedi dangos uchod, dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf, mae'r Llywodraeth wedi llwyddo i newid penderfyniad y Comisiynydd ynghylch pa gyrff sy'n cael eu cynnwys yn y rhaglen o osod Safonau.

Ymhellach, yn y gorffennol, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud wrthym fod angen sicrwydd gan y Llywodraeth ynghylch ei hamserlen ddeddfwriaethol cyn y gall gychwyn ymchwiliad Safonau.

Rydym ar ddeall yn dilyn cyfarfod diweddar a gawsom gyda'r Comisiynydd y bydd yn cyhoeddi amserlen ar gyfer gweddill cyrff y sector preifat a gwirfoddol y mae modd eu cynnwys yn y Safonau cyn diwedd y flwyddyn.

 

Hoffem ofyn i'r pwyllgor gysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg gan ofyn am gopi o'r amserlen honno. Wedi i'r pwyllgor dderbyn yr amserlen, awgrymwn yn garedig y dylai'r pwyllgor ofyn i'r Llywodraeth gytuno bod modd a bwriad gweithredu ar yr amserlen honno (gan dderbyn mai mater i'r Llywodraeth nesaf fyddai hynny).

 

Ar 20fed Hydref 2015, dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cyfarfod Llawn: "... mae’r Llywodraeth wrth gwrs yn gefnogol o’r syniad o osod dyletswyddau ar gwmnïau yn y sector preifat. Fe gwblhaodd y comisiynydd ei thrydydd ymchwiliad yn ystod yr haf, ac rwy’n disgwyl derbyn yr adroddiadau sy’n deillio o hyn yn hwyrach yn yr hydref. Roedd yr ymchwiliad hwnnw yn cynnwys rhai cwmnïau sector preifat, fel y Swyddfa Bost, a’r cwmnïau dŵr. Er mwyn inni allu llunio safonau, mae angen i’r comisiynydd fod wedi cynnal ymchwiliad i’r cwmnïau o dan sylw a darparu adroddiad i Weinidogion Cymru. Mater o broses ac o wneud pethau’n gywir yw hwn, ac rwy’n ffyddiog y byddwn yn gosod safonau pellach ar y sector breifat wrth i’r broses fynd yn ei flaen."

 

Fodd bynnag, nid ydym wedi cael ymrwymiad clir gan y Llywodraeth y bydd yn pasio Safonau ar gyfer y sectorau hyn, er gwaethaf ymrwymiad yn Strategaeth Iaith y Llywodraeth i wneud hynny erbyn 2017. Yn y pwyntiau gweithredu yn Strategaeth Iaith y Llywodraeth, sy'n weithredol tan 2017, gwneir yr ymrwymiad canlynol:

 

"Gwneud safonau a fydd yn galluogi’r Comisiynydd i osod dyletswyddau ar gwmnïau’r sector preifat sy’n rhan o gwmpas Mesur y Gymraeg, gan gynnwys cwmnïau telathrebu, gweithredwyr bysiau a threnau, a chwmnïau cyfleustodau..." tud. 44, Iaith Byw: Iaith Fyw

 

Mae angen sicrwydd gan y Llywodraeth a'r Comisiynydd eu bod nhw'n mynd i wireddu'r addewid hwnnw, achos nid yw'r Llywodraeth bresennol wedi rhoi'r sicrwydd hwnnw i ni.

 

(ii) Cryfhau ac Ymestyn Mesur y Gymraeg

 

Croesawn fwriad y Llywodraeth i ddiwygio'r Mesur. Fodd bynnag, nid yw'n gyfystyr ag addewid y bydd y diwygio yn bodloni ein gofynion eraill fel deisebwyr sef:

•        sefydlu hawliau cyffredinol i'r Gymraeg, ac

•        ymestyn sgôp y Mesur i weddill y sector breifat, gan gynnwys archfarchnadoedd a banciau.

Gofynnwn felly i'r Pwyllgor holi'r Llywodraeth ymhellach ynghylch y materion hyn.

 

Diolch eto am y cyfle i gynnig sylwadau pellach ar lythyr y Prif Weinidog.

 

Yr eiddoch yn gywir,

 

Manon Elin James

Cadeirydd, Grŵp Hawl, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg